Mae teulu Shamima Begum wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref i ofyn am help i ddod a’i mab newydd anedig i Brydain.

Yn y llythyr mae’r teulu’n dweud na ddylai’r babi “golli’r fraint o gael ei fagu yn niogelwch y wlad hon”.

Roedd Shamima Begum wedi gadael Llundain pan oedd yn 15 oed gan ffoi i Syria i ymuno a’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Mae hi bellach yn dweud ei bod eisiau dychwelyd i wledydd Prydain gyda’i mab.

Roedd ei chwaer, Renu Begum, wedi ysgrifennu at Sajid Javid ar ran y teulu yn gofyn sut allen nhw ei helpu i ddod “a fy nai yn ôl adre aton ni.”

Dywed ei theulu nad ydyn nhw wedi cael unrhyw gysylltiad gyda Shamima Begum ac wedi clywed ei bod wedi rhoi genedigaeth i’w mab drwy adroddiadau yn y cyfryngau.

Maen nhw wedi pwysleisio eu bod wedi’u “ffieiddio” gan rai o’r sylwadau mae hi wedi eu gwneud i’r cyfryngau yn ddiweddar. Mae hi mewn gwersyll i ffoaduriaid yn Syria.

Roedd Shamima Begum wedi colli ei dinasyddiaeth Brydeinig wythnos ddiwethaf.