Mae dyn o Fanceinion wedi cael ei gyhuddo o droseddau sy’n ymwneud â difrod hiliol ar ôl i’r slogan ‘Dim Duon’ ymddangos ar dŷ teulu o Affrica.

Yn ôl heddlu’r ddinas, mae disgwyl i Vaughan Dowd, 54, o Salford ymddangos gerbron Llys Ynadon Manceinion fore dydd Iau (Chwefror 21) wedi ei gyhuddo o gyflawni difrod troseddol a hiliol.

Cafodd y slogan ei baentio ar ddrysau a mynedfeydd fflatiau yn Salford lle mae’r cyfreithiwr, Jackson Yamba, yn byw gyda’i fab ifanc a’i gyfaill, Theo Baya.

Fe dynnodd y gŵr o’r Congo sylw at y weithred ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl iddo fethu â chael ymateb gan yr heddlu.

Mae Prif Gwnstabl Heddlu Manceinion eisoes wedi ymddiheuro am yr oedi.