“Gwylio yn unig”, ac nid rheoli’r digwyddiad, oedd David Duckenfield ar ddiwrnod trychineb Hillsborough yn 1989, yn ôl cyn-sarjant Heddlu De Swydd Efrog.

Fe fu Michael Goddard yn rhoi tystiolaeth yn yr achos yn Llys y Goron Preston, lle mae David Duckenfield wedi’i gyhuddo o ddynladdiad trwy esgeulustod yn dilyn marwolaeth 95 o gefnogwyr Lerpwl. Mae’n gwadu’r cyhuddiadau.

Bu farw cefnogwr arall flwyddyn yn ddiweddarach ac felly, does dim modd ystyried ei farwolaeth yn ystod yr achos hwn.

Mae Graham Mackrell, cyn-ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Sheffield Wednesday, yn gwadu torri rheolau iechyd a diogelwch ar ddiwrnod y gêm gwpan rhwng Lerpwl a Nottingham Forest.

Tystiolaeth

Roedd Michael Goddard yn un o’r plismyn yn ystafell reoli’r gêm yn Sheffield, ac fe ddywedodd nad David Duckenfield oedd yn rheoli’r sefyllfa gan ei fod e’n newydd ac yn ddi-brofiad yn y swydd yr oedd wedi’i phenodi ers tair wythnos yn unig.

Bernard Murray, rheolwr gweithrediadau’r heddlu yng nghae Hillsborough, oedd â’r cyfrifoldeb hwnnw, meddai wrth gael ei holi gan fargyfreithiwr David Duckenfield.

Dywed Michael Goddard fod gan David Duckenfield waith “amhosib” i ddysgu’r cyfan yr oedd angen iddo ei wybod o fewn cyfnod byr, ac mai ar sail “teitl ei swydd ac nid profiad” yr oedd yn rhaid iddo fod yn y blwch gweithrediadau yn Hillsborough y diwrnod hwnnw.

Roedd pump o blismyn yn y blwch yn rheoli’r gêm ac roedd David Duckenfield “yn syml iawn yn gwylio”, meddai, a’i fod yn “gwbl” ddibynnol ar Bernard Murray i’w arwain.

Wedi’r wasgfa

Ar ôl i’r cefnogwyr ddechrau gwasgu yn erbyn y gatiau i gael mynediad i Leppings Lane, y teras lle digwyddodd y trychineb, fe wnaeth sylw’r heddlu droi at dawelu’r cefnogwyr, meddai Michael Goddard.

Dywedodd fod neb wedi rhagweld yr hyn oedd ar fin digwydd wrth i David Duckenfield orchymyn fod y gatiau’n cael eu hagor i leihau’r gwasgu, ac mae’n dweud iddo “siomi” ei gydweithwyr wrth fethu â helpu.

Wrth gael ei holi gan yr erlynydd, dywedodd nad oedd e’n ymwybodol o brofiad blaenorol David Duckenfield yn Hillsborough rai blynyddoedd cyn hynny, nac o gyfarfodydd yr oedd wedi eu mynychu ar blismona gemau pêl-droed.