Mae Shamima Begum yn dweud bod penderfyniad lywodraeth Prydain i gael gwared ar ei ddinasyddiaeth Brydeinig yn “anghyfiawn”.

Dywed y ferch 19 oed, a adawodd Llundain i deithio i Syria yn 15 oed, ei bod hi “wedi’i synnu” pan glywodd am benderfyniad yr Ysgrifennydd Gartref, Sajid Javid.

Mae hi nawr yn edrych tuag at yr Iseldiroedd i gael dinasyddiaeth – dyna lle mae ei gŵr hi’n dod.

Wrth siarad o wersyll ffoaduriaid yn Syria, ble mae hi’n aros gyda’i newydd ganedig fab, dywedodd ei bod y sefyllfa “ychydig yn drist ac yn rhwystredig. Rwy’n teimlo ei bod hi’n annheg arnaf i a fy mab”.

“Mae’n dorcalonnus i’w ddarllen. Fe wnaeth fy nheulu wneud hi swnio fel y byddai’n llawer haws i mi ddod yn ôl i wledydd Prydain.”

Mae hi’n honni nad yw hi’n deg arni hi, gan fod llawer yn yr un sefyllfa yn cael dychwelyd i wledydd Prydain.