George Osborne
Bydd y Canghellor  George Osborne yn addo arbed pobol yn Lloegr rhag ergyd ariannol arall heddiw trwy gyhoeddi fod treth y cyngor i gael ei rewi am y tro.

Mae disgwyl i’r Canghellor gyhoeddi y bydd arian o’r Trysorlys yn cael ei roi i helpu cynghorau i gadw’r lefel treth yr un fath am yr ail flwyddyn yn olynnol, gan arbed tua £72 i bob teulu.

Bydd y cynllun – sydd i gael ei ariannu gyda £800 miliwn sydd wedi ei arbed gan adrannau Whitehall – yn cael ei gyhoeddi yn ystod araith George Osborne yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol.

Mae disgwyl iddo hefyd amddiffyn ei bolisi o ddelio â dyled gyhoeddus, gan ddadlau bod y Llywodraeth ar y trywydd iawn. Mae’n wynebu pwysau i wario arian cyhoeddus i roi hwb i’r economi.

Ond bydd George Osborne yn ategu bwriad y glymblaid yn San Steffan i gadw at y targedau i ostwng dyledion.

Fe fydd y Canghellor yn dadlau bod argyfwng ariannol gwledydd yr Ewro yn ei gwneud hi’n bwysicach nag erioed bod Prydain yn dilyn polisi o ddisgyblaeth ariannol.