Mae nifer y bobol o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd sy’n gweithio yng ngwledydd Prydain wedi cynyddu o fwy na 100,000 i’w lefel uchaf erioed.

Mae hyn mewn gwrthgyferbyniad llwyr â’r gostyngiad sydd wedi bod yn nifer y gweithwyr o Ewrop.

Roedd tua 1.29 miliwn o weithwyr o wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd yng ngwledydd Prydain yn ystod tri mis olaf 2018 – cynnydd o 30,000 o gymharu â’r un cyfnod yn 2017.

O blith y 1.29 miliwn, mae 277,000 o weithwyr o Affrica; 593,000 o Asia; 299,000 o America ac Awstralia; a 126,000 o wledydd ar y cyfandir sydd ddim yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd.

Y cynnydd mwyaf ydi’r 85,000 yn nifer y gweithwyr o Asia, sydd bellach yn gyfanswm o 194,000 o India ac yn 107,000 o Paciatan a Bangladesh.

Mae 96,000 o Americanwyr yn gweithio yng ngwledydd Prydain; 71,000 o bobol o Awstralia a Seland Newydd; a 64,000 o Dde Affrica.

Llai o Ewrop

Mae nifer y gweithwyr o wledydd yr Undeb Ewropeaidd wedi gostwng 61,000 i 2.27 miliwn.

Mae 869,000 ohonyn nhw’n dod o’r Weriniaeth Tsiec, Estonia, Hwngari, Latfia, Lithwania, Pwyl, Slofacia a Slofenia.

Rhwng Hydref a Rhagfyr 2018, dim ond ychydig dros filiwn o bobol o 14 gwlad ‘draddodiadol’ yr Undeb Ewropeaidd – yn cynnwys Ffrainc, yr Almaen a Sbaen – oedd yn gweithio yng ngwledydd Prydain.

Mae nifer y gweithwyr o Rwmania a Bwlgaria bellach yn 370,000.