Mae’r nifer o bobol sydd mewn gwaith ar ei uchaf, ynghyd a’r nifer o swyddi gwag sydd yn mynd, yn ôl ffigurau.

Yn y tri mis yn arwain ar fis Rhagfyr, roedd cyflogaeth wedi cynyddu o 167,000 i 32.6 miliwn – yr uchaf ers 1971.

Mae cyfartaledd cyflog wedi cynyddu 3.4% hefyd yn y flwyddyn i fis Rhagfyr llynedd, sy’n gosod y record uchaf mewn degawd.

Yn ôl y ffigurau hyn gan Swyddfa Ystadegau/Cenedlaethol, fe ddisgynnodd diweithdra 14,000 i 1.36 miliwn hefyd, sydd 100,000 yn llai i gymharu â blwyddyn yn ôl.

O ganlyniad, mae diweithdra yng ngwledydd Prydain i lawr 4%, sydd i lawr o 0.3% mewn blwyddyn, ac ar ei isaf ers 1975.  

Mae’r nifer o swyddi gwag wedi cynyddu 16,000 i’w lefel uchaf o 870,000.