Mae’r cwmni ceir, Honda, wedi cadarnhau bod y safle yn Swindon yn mynd i gau yn 2021, gan roi 3,500 o swyddi yn y fantol.

Mewn datganiad heddiw (dydd Mawrth), Chwefror 19), dywed y cwmni o Siapan ei fod yn “adolygu” ei weithgarwch rhyngwladol yn sgil y bwriad i gynhyrchu mwy o geir trydan.

Yn ôl y cynlluniau ar gyfer yr ad-drefnu, mae’n bosib y bydd presenoldeb y cwmni yng ngwledydd Prydain yn newid yn sylweddol.

Dyw Honda ddim yn sôn am Brexit yn y datganiad.

Mae disgwyl i drafodaethau rhwng y cwmni a’r undebau llafur gychwyn heddiw, gyda phenaethiaid Honda yn cadarnhau y byddan nhw’n cydweithio’n agos â’r gweithlu dros y misoedd nesaf.

Mae’r Ysgrifennydd Brexit, Greg Clark, wedi ymateb trwy ddweud bod y cyhoeddiad gan Honda yn “andwyol” i Swindon a gwledydd Prydain.