Mae 11 o bobol wedi cael eu harestio ar ôl i ddyn gael ei drywanu i farwolaeth yng nghanol Llundain.

Yn ôl yr Heddlu Metropolitan, bu farw’r dioddefwr mewn gwesty yn Stryd Euston, Camden neithiwr (dydd Llun, Chwefror 19).

Mae’n debyg ei fod wedi syrthio ar lawr cyntedd yr adeilad ar ôl cael ei drywanu ar y stryd, medden nhw ymhellach. Bu farw er gwaethaf ymdrechion gan barameddygon i’w achub.

Mae pob un o’r 11 person sydd yn y ddalfa yn cael eu hamau o lofruddio.