Mae saith Aelod Seneddol Llafur wedi cyhoeddi y bore ma eu bod yn ymddiswyddo o’r blaid.

Mae’r saith yn cynnwys Luciana Berger, Chris Leslie, Angela Smith, Gavin Shuker, Mike Gapes, Ann Coffey a Chuka Umunna.

Roedd ’na ddyfalu bod sawl Aelod Seneddol Llafur ar fin gadael y blaid oherwydd anniddigrwydd am y modd mae’r arweinydd Jeremy Corbyn wedi delio gyda Brexit a’r honiadau o wrth-Semitiaeth.

Daeth neges y bore ma (dydd Llun, 18 Chwefror) yn dweud bod cyhoeddiad am gael ei wneud am 10yb yn “ymwneud a dyfodol gwleidyddiaeth gwledydd Prydain”.  Daeth y neges gan aelod o staff yr AS Chuka Umunna.

Wrth gyhoeddi ei hymddiswyddiad dywedodd Luciana Berger bod hyn wedi bod yn “benderfyniad anodd a phoenus ond angenrheidiol.”

Ychwanegodd: “O hyn ymlaen fe fyddwn ni’n eistedd yn y Senedd fel grŵp annibynnol newydd o ASau.”

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad y bore ma dywedodd Jeremy Corbyn ei fod yn “siomedig nad oedd yr ASau yma yn teimlo eu bod yn gallu parhau i gydweithio ar bolisïau Llafur a oedd wedi ysbrydoli miliynau yn yr etholiad diwethaf.”