Mae ’na ddyfalu bod sawl Aelod Seneddol Llafur ar fin gadael y blaid oherwydd anniddigrwydd am y modd mae wedi delio gyda Brexit a’r honiadau o wrth-Semitiaeth.

Daeth neges y bore ma (dydd Llun, 18 Chwefror) yn dweud bod cyhoeddiad am gael ei wneud am 10yb yn “ymwneud a dyfodol gwleidyddiaeth gwledydd Prydain”.  Daeth y neges gan aelod o staff yr AS Chuka Umunna.

Hyd yn hyn, nid oedd rhai o’r aelodau blaenllaw y credir sydd yn bwriadu gadael y Blaid Lafur yn fodlon gwneud sylw ar y mater.

Dywedodd y cyn-weinidog cysgodol Owen Smith na fyddai’n gwneud sylw am yr honiadau. Ond fe awgrymodd yr AS Llafur Stephen Kinnock wrth The Westminster Hour ar BBC Radio 4 ddydd Sul bod y dyfalu “wedi bod yn mynd mlaen mor hir, mae’n ddrwg gen i ddweud, ond ie, mae’n debyg y bydd rhyw fath o hollt.”

Yn ôl y canghellor cysgodol, John McDonnell, ddydd Sul doedd e ddim yn credu “bod angen i unrhyw un adael y blaid.”

Fe ddatgelodd hefyd y byddai Llafur yn “edrych ar” gynnig sydd wedi cael ei wneud gan yr aelodau meinciau cefn Peter Kyle a Phil Wilson i gefnogi ail refferendwm Brexit yn y rownd nesaf o bleidleisiau Brexit ar 27 Chwefror.