Mae teulu dynes 19 oed wnaeth ffoi i Syria bedair blynedd yn ôl yn dweud ei bod hi wedi rhoi genedigaeth i fabi.

Daw’r adroddiadau ddiwrnod yn unig wedi i arbenigwr ddweud y gallai dadradicaleiddio Shamima Begum fod yn her.

Mae lle i gredu y bydd hi’n ceisio dychwelyd i wledydd Prydain i fagu’r plentyn yn ne-ddwyrain Llundain, lle mae ei theulu’n byw.

“Rydym ni, deulu Shamima Begum, wedi cael gwybod fod Shamima wedi geni ei phlentyn. Rydym yn deall ei bod hi a’r plentyn yn iach,” meddai ei theulu mewn datganiad trwy law cyfreithiwr.

“Hyd yn hyn, dydyn ni ddim wedi cael cyswllt uniongyrchol gyda Shamima, ond rydym yn gobeithio magu cyswllt gyda hi’n fuan er mwyn cael dilysu’r uchod.”