Mae cwmni awyrennau Flybmi wedi mynd i’r wal, gan roi’r bai am ei fethiannau ar Brexit a chostau tanwydd yn cynyddu.

Daeth y cyhoeddiad neithiwr (nos Sadwrn, Chwefror 17) na fydd y cwmni bellach yn cynnig teithiau awyr a’i fod wedi gwneud cais i fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Daw’r newyddion wythnos yn unig wedi i gwmni arall, Flybe, rybuddio y gallai fynd i’r wal pe na bai Virgin Atlantic yn ei gymryd drosodd.

Ac mae Germania, y cwmni awyr Almaenig, wedi gwneud cais ers pythefnos i fynd yn solfent.

Mae Chris Grayling, Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, yn dweud bod yr ymdrechion i sicrhau bod 110,000 o bobol Brydeinig yn cael dod adre’n ddiogel ymhlith yr ymdrechion mwyaf erioed i ddychwelyd pobol i’w mamwlad yn ystod cyfnod o heddwch.

Mae’n debygol fod miloedd o swyddi bellach yn mynd i gael eu colli.