Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn well na sicrhau cytundeb gwael, meddai Nigel Dodds, aelod seneddol blaenllaw’r DUP yng nghynhadledd y blaid yn Omagh.

Roedd yn ymateb ddyddiau’n unig ar ôl i aelodau seneddol yn San Steffan wrthod – o 303 o bleidleisiau i 258 – y cam nesaf yng nghynllun Brexit Theresa May, prif weinidog Prydain ar gyfer y ffordd ymlaen.

Cwta 40 o ddiwrnodau sydd tan y dyddiad terfynol i adael, ac mae’r DUP yn dweud eu bod yn barod i gefnogi cynllun Theresa May pe bai hi’n barod i gyfaddawdu a gwneud cyfres o newidiadau ynghylch sefyllfa ffiniau Iwerddon.

“Ond rydym yn glir fod dim cytundeb yn well na chytundeb gwael,” meddai Nigel Dodds wrth y gynhadledd.

“Wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, y seren sy’n ein tywys yw’r undeb rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

“Wnawn ni ddim byd i danseilio’r Undeb hwnnw.

“Cael pleidleisiau’r DUP yw’r unig ffordd i sicrhau mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin. Gyda’r newidiadau angenrheidiol i’r ‘backstop’, fe fydd gan y prif weinidog ein cefnogaeth ni.”

Ymateb Arlene Foster

Mae Arlene Foster, arweinydd y blaid, yn dweud y bydd y DUP yn dweud ‘Na’ wrth gytundeb “anaddas”, ond na fyddan nhw’n ofni dweud ‘Ie’ wrth “y cytundeb cywir”.

“Byddwn ni’n mesur unrhyw Gytundeb Ymadael drafft newydd yn erbyn ein meini prawf ein hunain o ran amddiffyn yr Undeb a pharchu canlyniad y refferendwm,” meddai.

“Rhaid i ni weithio tuag at gytundeb synhwyrol sy’n gweithio i bob rhan o’r Deyrnas Unedig.”