Mae llanc 16 oed wedi marw ar ôl cael ei drywanu y tu allan i goleg chweched dosbarth yn Birmingham ddydd Mercher (Chwefror 13).
Cafodd ei drywanu yn ei frest, ac fe fu mewn coma yn yr ysbyty ers y digwyddiad yn ardal Balsall Heath y ddinas.
Cafodd dau lanc arall, 18 a 19 oed, eu hanafu yn y digwyddiad.
Cafodd llanc 16 oed ei gyhuddo o geisio llofruddio pan aeth gerbron ynadon y ddinas ddoe (dydd Gwener, Chwefror 15). Mae disgwyl iddo fynd gerbron Llys y Goron Birmingham ddydd Llun (Chwefror 18).
Mae disgwyl i ragor o blismyn fod yn yr ardal.