Mae Chris Grayling wedi cael y bai am fod cwmni gwasanaeth prawf wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Mae penaethiaid undebau’n dweud fod “rhaglen breifateiddio drychinebus” cyn-Ysgrifennydd Cyfiawnder San Steffan ar fai am sefyllfa Working Links.

Mae’r cwmni’n berchen ar dri chwmni arall yng Nghymru, Avon a Gwlad yr Haf, a Dyfnaint a Chernyw.

Mae undeb GMB yn dweud bod ymrwymiad cwmnïau preifat yn y sector yn “wastraff drud”, wrth i undebau eraill alw ar Lywodraeth Prydain i “ddeffro”.

Ail-drefnu’r gwasanaeth prawf

O dan arweiniad Chris Grayling, cafodd y gwasanaeth prawf ei ail-drefnu fel rhan o breifateiddio rhannol.

Wedi hynny, byddai’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn ymdrin ag achosion mwy difrifol, tra byddai 21 cwmni llai yn canolbwyntio ar achosion llai difrifol.

Mae Chris Grayling, sydd bellach yn Ysgrifennydd Trafnidiaeth, dan bwysau i ymddiswyddo o’r swydd honno hefyd yn sgil helynt fferis Brexit ac amserlenni trenau.

“Dylai methiant tri chwmni adfer cymunedol yn ne-orllewin Lloegr a Chymru ddeffro’r Weinyddiaeth Gyfiawnder,” meddai llefarydd ar ran undeb GMB.

“Mae yna 18 cytundeb arall, gan gynnwys nifer o dan reolaeth Interserve, cwmni sy’n mynd o un argyfwng ariannol i’r llall.

“Mae ymrwymiad cwmnïau preifat yn y sector cyfiawnder yn wastraff drud; mae gwasanaethau’n parhau heb eu cyflwyno tra bod miloedd o swyddi’n cael eu haberthu mewn ymgais i sicrhau elw.”

Mae David Gauke, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder presennol, yn dweud bod y sefyllfa’n “annerbyniol” os yw troseddwyr yn cael eu categoreiddio er mwyn bwrw targedau.