Mae miloedd o botestwyr wedi gorymdeithio ym Manceinion lle mae cynhadledd y Blaid Geidwadol yn cael ei chynnal.

Mae’n debyg bod hyd at 30,000 o brotestwyr wedi cymryd rhan yn yr orymdaith gafodd ei threfnu gan Gyngres yr Undebau Llafur (CULl). Mae’r protestwyr yn gwrthwynebu toriadau gwariant y Llywodraeth yn y sector cyhoeddus a phensiynau.

Mae nifer fawr o weithwyr yn y sector cyhoeddus yn cymryd rhan yn y brotest gan gynnwys diffoddwyr tân ac athrawon. Mae’r heddlu ar eu gwyliadwraeth rhag ofn bod eithafwyr yn ceisio achosi problemau yn ystod y brotest.

Fe fydd arweinwyr yr undebau yn annerch y protestwyr ar ddiwedd yr orymdaith.