Mae cyn-weinidog Torïaidd, sy’n ymgyrchydd blaenllaw yn erbyn Brexit, yn ceisio gorfodi’r llywodraeth i gyhoeddi adroddiad sy’n dangos beth fyddai oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Mae’r ymgais gan Anna Soubry yn un o dri gwelliant i gynnig y llywodraeth y bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio arno heno.

Os bydd yn llwyddo, bydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r llywodraeth gyhoeddi’r ddogfen briffio fwyaf diweddar sy’n ymwneud â busnes a masnach o fewn saith diwrnod.

Fe fydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio hefyd ar ddau welliant arall:

  • Un gan y Blaid Lafur yn gorfodi Theresa May i gyflwyno ei chytundeb Brexit i’r senedd bleidleisio arno erbyn 27 Chwefror neu roi cyfle i’r senedd reoli’r broses
  • Un arall gan yr SNP i ohirio Brexit trwy ymestyn cyfnod Erthygl 50.

Gwrthryfelwyr yn ildio?

Yn y cyfamser, mae’n ymddangos fod y perygl i’r llywodraeth golli’r bleidlais yn erbyn ei phrif gynnig yn lleihau.

Dywedodd Jacob Rees-Mogg ei bod yn “hynod annhebygol” bellach y byddai Torïaid gwrth-Ewropeaidd yn gwrthryfela heno, yn wahanol i adroddiadau yn gynharach yn y dydd.

Roedd aelodau ei garfan dros Brexit ‘caled’, yr ERG, wedi bygwth pleidleisio’n erbyn y cynnig ar y sail ei fod yn gyfystyr â chymeradwyo rhwystro Brexit di-gytundeb.

Roedd gweinidogion wedi rhybuddio, fodd bynnag, y byddai trechu’r Prif Weinidog heno yn anfon y “neges anghywir” i Frwsel am y posibilrwydd o’r senedd yn uno y tu ôl iddi.