Mae merch ysgol o ddwyrain Llundain a wnaeth adael gwledydd Prydain yn 15 oed i ymuno â’r Wladwriaeth Islamaidd bellach yn feichiog, ac eisiau dychwelyd i wledydd Prydain.

Erbyn hyn mae Shamima Begum yn 19 oed ac wedi bod yn treulio’r pedair blynedd diwethaf mewn gwersyll yng ngogledd Syria, ble cafodd hi ei darganfod gan bapur newydd The Times.

Yno mae hi’n briodferch i un o ymladdwyr y Wladwriaeth Islamaidd sydd wedi ei ddal, yn feichiog ers naw mis, ac wedi gweld dau o’i phlant yn colli eu bywydau.

Ond dyw Shamima Begum “ddim yn difaru mynd yno”, meddai wrth The Times, “dw i ddim yr un ferch 15 oed wirion wnaeth redeg i ffwrdd o Bethnal Green bedair blynedd yn ôl.”

Roedd hi yn un o dair o ferched – gyda Kadiza Sultana a Amira Abase – o Bethnal Green Academi wnaeth adael eu cartrefi a’u teuluoedd ym mis Chwefror 2015 i ymuno â merch arall o ‘r academi oedd wedi gwneud y daith o Syria i Lundain flwyddyn ynghynt.

Fe briododd bob un ohonyn nhw ymladdwr ISIS ar ôl cyrraedd, yn ôl y Times.

Pan gyrhaeddodd Shamima Begum, cafodd ei rhoi mewn tŷ yn ninas Raqqa lle mae priodferch i jihadi ISIS yn aros cyn priodi.

Roedd hi wedi cael gŵr mewn 10 diwrnod ar ôl cyrraedd – dyn o’r Iseldiroedd oedd wedi cael troedigaeth i Islam. Dywedodd hi fod ei gwr wedi cael ei arestio, ei gyhuddo o ysbio a’i arteithio.

Fe adawodd Shamima Begum dinas Raqqa ym mis Ionawr 2017 gyda’i gŵr ond bu farw ei phlant – un ferch naw oed ac un bachgen tri mis, yn ddiweddar.

Dyw Swyddfa Gartref Prydain ddim yn gwneud sylw ar achosion unigol medden nhw, ond mae unrhyw un sydd yn dychwelyd i wledydd Prydain ar ôl teithio i dir y Wladwriaeth Islamaidd yn wynebu ymchwiliad troseddol ac mae cyfreithiau llym mewn grym erbyn hyn.