Mae grŵp o lysgenhadon wedi ymddeol yn apelio ar i Theresa May ohirio Brexit er mwyn caniatáu mwy o amser am gynllun cliriach neu am ail refferendwm.

Mewn datganiad i bapur newydd The Times, mae’r 40 a mwy o gyn-lysgenhadon a chyn-swyddogion eraill o’r Swyddfa Dramor, yn rhybuddio y bydd cynllun Brexit Theresa May yn arwain at flynyddoedd o drafodaethau ac ansicrwydd.

Yn eu plith mae cyn-lysgenhadon Prydain yn America, Ffrainc a Rwsia, a chyn-bennaeth y Swyddfa Dramor, yr Arglwydd Kerr, un o awduron cymal Erthygl 50 sy’n pennu’r broses ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Meddai cyn-lysgennad Prydain yn Washington, Syr Nigel Sheinwald: “Beth bynnag yw eich barn o Brexit, y ffaith yw bod arnon ni angen saib, oherwydd allwn ni ddim cael cytundeb da na Brexit trefnus yn y chwe wythnos sydd ar ôl.”