Llun: Wikipedia
Fe allai’r traddodiad o wneud paned o de fod yn y fantol, ar ôl i arolwg newydd ddangos mai dim ond 4% o bobl dan 25 oed sy’n yfed te.
Yn ôl arolwg gan Typhoo mae 80% o bobl yn y DU yn dibynnu ar baned o de i’w cadw i fynd yn ystod y dydd.
Ond roedd mwy na hanner o’r yfwyr te gafodd eu holi dros 45 oed, a dim ond 4% oedd dan 25.
Mae’r arolwg hefyd yn dangos bod pobl dan 25 oed yn yfed dim ond un math o de, er bod ymchwil blaenorol wedi dangos bod mwy o bobl yn yfed te llysieuol.
Mae’n debyg bod 20% o bobl hefyd yn gwneud te mewn mwg, neu te tramp, yn lle’r tebot mwy traddodiadol.