Mae dyn 27 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio tri dyn oedrannus – dau efaill a dyn arall – yng Nghaerwysg (Exeter).

Cafwyd hyd i gorff dyn 80 oed mewn eiddo yn y ddinas ddoe (dydd Llun, Chwefror 11), a chyrff y ddau efaill 84 oed filltir a hanner i ffwrdd ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 12).

Mae’r heddlu’n dweud nad ydyn nhw wedi gweld digwyddiad o’r fath erioed o’r blaen, ei fod wedi achosi “pryder dealladwy”, a bod yr ymchwiliad yn “gymhleth”.

Maen nhw’n apelio am wybodaeth.