Mae Theresa May yn wynebu ymgais arall gan grŵp trawsbleidiol o Aelodau Seneddol i rwystro Brexit di-gytundeb os na all daro bargen gyda’r Undeb Ewropeaidd erbyn canol mis Mawrth.

Bwriad yr ASau yw cyflwyno gwelliant ymhen pythefnos a fydd yn galluogi’r Seneddd i orfodi gweinidogion i ohirio Brexit os nad oes cytundeb yn ei le.

Er i welliant tebyg gan yr AS Llafur Yvette Cooper a’r cyn-weinidog Torïaidd Syr Oliver Letwin gael ei wrthod bythefnos yn ôl, mae lle i gredu y byddai’n fwy tebygol o lwyddo’r tro hwn.

Y gred yw y byddai rhai gweinidogion sy’n gwrthwynebu Brexit di-gytundeb fod yn barod i ymddiswyddo er mwyn cefnogi gwelliant o’r fath.

Gohirio?

Yn y cyfamser, mae rhai cefnogwyr Brexit wedi cael eu cythruddo gan adroddiadau fod prif swyddog bargeinio’r Prif Weinidog yn Brwsel wedi awgrymu y byddai i ASau wrthod cefnogi ei chytundeb yn arwain at ohirio Brexit.

Yn ôl newyddion ITV, clywyd Olly Robbins yn dweud wrth gydweithwyr mewn bar yn Brwsel y byddai’r Undeb Ewropeaidd yn debygol o ganiatáu i Brydain gael estyniad broses Erthygl 50.

Yr honiad yw iddo ddweud: “Mae estyniad yn bosibl ond os nad ydyn nhw’n pleidleisio dros y cytundeb yna mae’r estyniad am fod yn un hir …”

Dywedodd cyn-arweinydd Ukip, Nigel Farage, fod Olly Robbins yn rhan o “bumed colofn y Gwasanaeth Sifil” a galwodd ar iddo gael ei sac am ei “frad a’i ddiffyg gallu”.

Pryderon busnesau

Yn y cyfamser, mae Siambrau Masnach Prydain (BCC), sy’n cynrychioli busnesau bach wedi mynegi eu pryderon am adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar 29 Mawrth.
Maen nhw wedi cyhoeddi 20 o gwestiynau “allweddol” y mae ar eu haelodau eisiau atebion iddyn nhw.

Meddai Adam Marshall, cyfarwyddwr cyffredinol BCC: “Mewn llai na 50 diwrnod, gallau cwmnïau Prydain wynebu’r newid mwyaf i fasnach ers dros genhedlaeth, heb yr wybodaeth a’r eglurder mae arnyn nhw eu hangen.

“Mae perygl gwirioneddol y bydd diffyg gwybodaeth glir gan y Llywodraeth Cymru yn gadael cwmnïau, eu pobl a’u cymunedau heb unlle i droi.”