Canolfan wyliau yn Kenya. Llun: Africapoint
Mae Prydeinwyr yn cael eu cynghori i gadw draw rhag ardaloedd arfordirol Kenya, o fewn 93 milltir â ffin Somalia, ar ôl i ddynion arfog ymosod am yr ail waith o fewn mis.

Daeth y rhybudd gan y Swyddfa Dramor ar ol i wraig o Ffrainc gael ei chipio ddoe o ganolfan wyliau yn Lamu, gogledd Kenya gan ddynion arfog o Somalia.

Ar 11 Fedi cafodd David Tebbutt, 58 ei ladd a’i wraig Judith, 56, ei chipio gan ddynion arfog o’u canolfan wyliau yn Lamu, tref sy’n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr.

Ddoe, fe lwyddodd yr heddlu i ddod o hyd i’r cwch oedd wedi ei ddefnyddio i gipio Marie Dedieu, meddai Llywodraeth Kenya.

Dywedodd y Swyddfa Dramor bod eu cyngor yn cael ei adolygu’n barhaol yn dilyn y datlygiadau diweddaraf.