Mae corff babi wedi ei ddarganfod gan rywun yn cerdded gyda’u ci, yn ôl yr heddlu.
Mae’n debyg bod y babi rhyw ddeufis oed.
Cafodd corff y babi ei ddarganfod mewn ffos ger Lôn Carr yn Kirkham, Swydd Gaehirfryn tua 2pm ddoe.
Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad. Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal heddiw i geisio darganfod achos marwolaeth y babi.
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.