Fe fydd y Prif Weinidog yn pwyso ar Aelodau Seneddol i ddal i gredu yn ei chynllun cytundeb Brexit pan fydd yn gwneud datganiad gerbron y senedd heddiw.

“Mae’r trafodaethau wedi cyrraedd cam allweddol,” mae disgwyl i Theresa May ei ddweud. “Mae angen inni i gyd bellach ddal i gredu i gael y newidiadau y mae’r Tŷ e hangen a chyflawni Brexit mewn pryd.

“Trwy gael newidiadau i gynllun wrth gefn Gogledd Iwerddon; trwy ddiogelu a gwella hawliau gweithwyr a gwarchod yr amgylchedd, a thrwy gryfhau rôl y Senedd yn y cam nesaf o drafodaethau, dw i’n credu y gallwn ni gyrraedd cytundeb y gall y Tŷ hwn ei gefnogi.”

Mae trafodaethau’n parhau rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd, gyda’r Ysgrifennydd Brexit Stephen Barclay a dirprwy answyddogol Theresa May, David Lidington, yn cyfarfod Aelodau Seneddol Ewropeaidd yn Strasbourg heddiw.

Hefyd ar y gweill mae yrafodaethau cychwynnol rhwng Theresa May ac arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, yn y Senedd.