Roedd twf economi gwledydd Prydain wedi arafu yn chwarter ola’ 2018, wrth i’r diwydiant cynhyrchu ceir weld y dirywiad mwyaf ers bron i ddegawd.

Roedd twf Cynnyrch Domestig Gros (GDP) wedi gostwng i 0.2% rhwng mis Hydref a Rhagfyr, o’i gymharu â thwf o 0.6% yn y chwarter blaenorol, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Yn y cyfamser mae GDP blynyddol wedi cynyddu o 1.4% – y twf gwanaf ers 2009.

Roedd gwerth y bunt wedi gostwng 0.4% yn erbyn y ddoler yn dilyn y newyddion. Yn erbyn yr ewro, roedd y bunt wedi gostwng 0.1% i 1.14.

Roedd cynhyrchiant ceir wedi gostwng 4.9% yn ystod y cyfnod, sef y dirywiad mwyaf ers chwarter cyntaf 2009.

Dywedodd yr ONS bod y gostyngiad ar draws nifer o ddiwydiannau yn adlewyrchu’r pryderon yn ymwneud a Brexit.

Dywedodd Rob Kent-Smith o’r ONS: “Roedd Cynnyrch Domestig Gros (GDP) wedi arafu yn y tri mis hyd at ddiwedd y flwyddyn gyda chynhyrchiant ceir a chynnyrch dur yn gweld gostyngiad sylweddol a’r diwydiant adeiladu hefyd yn dirywio. Serch hynny, roedd gwasanaethau yn parhau i gynyddu, gyda’r sector iechyd, ymgynghorwyr rheoli a TG yn gwneud yn dda.”

Ychwanegodd bod gostyngiad i’w weld ar draws yr economi ym mis Rhagfyr.