Mae Theresa May yn addo cynnal rhagor o bleidleisiau ar Brexit cyn ddiwedd y mis, wrth i rai ei chyhuddo o geisio gwastraffu amser.

Fe fydd y Blaid Lafur yn ceisio gorfodi prif weinidog Prydain i gynnal ail bleidlais ar ei chynllun yn San Steffan erbyn Chwefror 26.

Ond wrth geisio gwrthsefyll ail bleidlais, mae hi’n cynnig cyfres o welliannau ar Chwefror 27 er mwyn ceisio adfer undod ei Chabinet.

Mae mater ffiniau Iwerddon yn parhau’n destun cryn drafod rhwng Llywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.

Bydd Stephen Barclay, yr Ysgrifennydd Brexit yn cyfarfod â’r prif drafodwr Michel Barnier ddydd Llun, tra bydd Jeremy Hunt, yr Ysgrifennydd Tramor, yn teithio i Paris a Warsaw am ragor o drafodaethau yr wythnos hon.

Cynigion a gwelliannau

Bydd cyfres o welliannau’n cael eu hystyried yn San Steffan ddydd Iau, gan gynnwys gosod dyddiad cau ar y trafodaethau fel rhan o welliant sy’n cael ei gynnig gan Syr Keir Starmer, yr aelod seneddol Llafur.

Fe allai’r gwelliannau hefyd gynnwys rhoi Brexit heb gytundeb o’r neilltu, gyda phosibilrwydd cryf ar hyn o bryd y gallai hynny ddigwydd ar Fawrth 29.

‘Amserlen, eglurder a phwrpas’

Mae Llywodraeth Prydain yn rhoi “amserlen, eglurder a phwrpas” ar gyfer y trafodaethau, meddai James Brokenshire, Ysgrifennydd Cymunedau San Steffan wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.

Dywed fod angen gwneud mwy er mwyn paratoi ar gyfer ymadawiad Prydain ar Fawrth 29.

Ond mae Syr Keir Starmer wedi cyhuddo Theresa May o “esgus gwneud cynnydd” er mwyn gwastraffu amser a dychwelyd i’r Senedd ar Fawrth 21 neu 22 a chynnig un dewis olaf – ei chytundeb hi neu ddim cytundeb o gwbl.

“Allwn ni ddim adael i hynny ddigwydd,” meddai. “Mae angen diwrnod pan fo’r Sendd yn dweud ’digon yw digon’.”

Gofynion Jeremy Corbyn

Yn y cyfamser, mae Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur, yn galw ar Theresa May i ateb pump o ofynion er mwyn bod yn sicr o gefnogaeth ei blaid i’w chynlluniau.

Mae’r rhain yn cynnwys cytundeb ar yr undeb dollau, a chydweithio’n agos gyda’r farchnad sengl.

Byddai’r blaid yn cefnogi ail refferendwm pe na bai’n derbyn y gofynion, meddai Tom Watson, dirprwy arweinydd y blaid.