Mae na gynnydd mawr wedi bod yn nifer y bobl yng ngwledydd Prydain sy’n dibynnu ar gael rhoddion bwyd am ddim, yn ôl elusen.

Dywed FareShare, sy’n ail-ddosbarthu bwyd  dros ben o’r archfarchnadoedd a gwneuthurwyr bwyd, bod 35,000 o bobl bellach yn derbyn bwyd ganddyn nhw, o’i gymharu a 29,000 y llynedd.

Mae’n dilyn y cynnydd mwyaf erioed yn nifer yr elusennau sy’n gofyn am help gan FareShare – o 600 i 700.

O’r elusennau gafodd eu holi ar gyfer yr arolwg, roedd 42% yn dweud bod ba gynnydd yn nifer y rhai yn gofyn am fwyd am ddim.

Mae traean o’r elusennau gafodd eu holi yn wynebu toriad yn eu cyllid gan y Llywodraeth.

‘Mwy o gefnogaeth’

Dywedodd prif weithredwr FareShare Lindsay Boswell: “Yn y cyfnod yma o gynnydd aruthrol mewn galw, rydym yn galw ar y diwydiant bwyd a’r cyhoedd i roi mwy o genfogaeth. Rydym yn apelio ar unrhywun sy’n gweithio o fewn y diwydiant bwyd i edrych o’r newydd ar yr hyn sy’n digwydd i fwyd dros ben a gofyn, ‘All y bwyd yma atal rhwyun rhag mynd heb fwyd?’”

Cafodd FareShare ei sefydlu yn elusen annibynnol yn 2004 ac mae ganddyn nhw 17 o leoliadau yn y DU. Mae nhw’n dosbarthu bwyd yn ddyddiol i sefydliadau fel llochesau i’r di-gartref, canolfannau dydd, a chlybiau brecwast.