Mae dyn wedi cael ei drywanu i farwolaeth yn ne-ddwyrain Llundain.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal East Dulwich toc ar ôl 3 o’r gloch fore heddiw (dydd Sul, Chwefror 10).

Mae lle i gredu bod y dyn yn ei 30au.

Fe fu farw yn y fan a’r lle.

Does neb wedi cael ei arestio, ac mae’r heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad.

Bydd y dyn yn cael ei adnabod yn ffurfiol maes o law, ac fe fydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal.