Mae pwysau ar Chris Grayling, Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, i gamu o’r neilltu tros helynt cytundeb fferi dadleuol.

Fe ddaeth i’r amlwg fod y cytundeb gwerth £13.8m wedi cael ei roi i Seaborne, cwmni sydd heb yr un fferi, ac fe gafodd ei ganslo wedyn.

Daeth y penderfyniad i ganslo’r cytundeb wedi i gwmni Arklow Shipping dynnu’n ôl o’r gwasanaeth rhwng Ramsgate ac Ostend.

Cafodd y cytundeb ei sefydlu rhag ofn na fydd cytundeb ynghylch Brexit, a hynny er mwyn lleihau’r pwysau ar borthladd Dover.

‘Dim gafael ar natur ddifrifol iawn ei swydd’

Mae aelodau seneddol, gan gynnwys rhai sydd o blaid yr Undeb Ewropeaidd, yn dweud y dylai Chris Grayling ymddiswyddo am ei ran yn yr helynt.

“Does ganddo fe ddim gafael ar natur ddifrifol iawn ei swydd,” meddai Anna Soubry, y cyn-Weinidog Busnes wrth yr Observer. “Dylai’r Prif Weinidog hefyd fod yn ystyried a oes yna rywun a allai wneud y swydd yn well.”

Mae Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur, hefyd yn dweud fod y sefyllfa’n “warthus”, ac mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud mai’r “cyfan oedd angen ei wneud” er mwyn sicrhau anhrefn oedd penodi Chris Grayling i ofalu am y cytundeb.

Mae undeb RMT yn cyhuddo Llywodraeth Geidwadol Prydain o “anwybyddu” eu cyngor ynghylch y sefyllfa, ac o fynd o “un argyfwng i’r llall”.