Mae Dug Caeredin, y Tywysog Philip, wedi ildio’i drwydded yrru yn dilyn gwrthdrawiad ger Sandringham yn Norfolk fis diwethaf.

Cafodd dwy ddynes eu hanafu pan darodd ei Land Rover Freelander yn erbyn eu car. Roedd babi naw mis oed yn y car ar y pryd.

Cafodd e gyngor gan gyfreithiwr y gallai e gael llai o gosb pe bai e’n ildio’i drwydded.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ystyried yr achos ar hyn o bryd, ac fe allai gael ei gyhuddo o yrru heb gymryd gofal. Mae e eisoes wedi ymddiheuro.

Dywedodd ar y pryd fod yr haul yn ei ddallu.

Ddyddiau’n unig wedi’r gwrthdrawiad, cafodd llun ohono ei gyhoeddi wrth y llyw heb wregys, ac fe gafodd e “air o gyngor” gan yr heddlu.