Mae gwe-dudalen codi arian wedi cael ei sefydlu i apelio am gyfraniadau i ailgychwyn chwilio am beilot yr awyren a oedd yn cludo Emiliano Sala.

Er i gorff y pêl-droediwr gael ei dynnu o weddillion yr awyren ar waelod y môr ger arfordir ynys Guernsey yr wythnos yma, mae’r peilot David Ibbotson yn dal heb gael ei ddarganfod.

Mae tudalen Go Fund Me gyda neges daer gan ei deulu wedi codi dros £13,000 hyd yma.