Mae’r Daily Telegraph wedi cyhoeddi honiadau am y perchennog siopau Syr Philip Green yn aflonyddu’n rhywiol ar aelodau o’i staff a’u sarhau.

Mae honiadau iddo dalu dros £1 miliwn i ddynes mewn swydd uchel yn ei gwmni i gadw’n ddistaw, ac wedi awgrymu wrth weithiwr du ei fod yn dal i daflu gwaewffyn yn y jyngl.

Mae’r Daily Telegraph yn cyhoeddi’r honiadau ar ôl i’r dyn busnes ollwng camau cyfreithiol yn erbyn y papur newydd.

Mae Philip Green wedi gwadu’r honiadau sy’n ymwneud â phump o bobl – tair dynes a thri dyn – a fu’n gweithio iddo.

Dywed cyfreithwyr sy’n ei gynrychioli ei fod yn gwadu fod ei ymddygiad tuag at ei weithwyr yn gyfystyr ag unrhyw fath o drosedd, camymddwyn difrifol na risg difrifol i iechyd a diogelwch.

Roedd y papur newydd wedi cyhoeddi stori am ‘ddyn busnes anhysbys’ y llynedd ar ô li Philip Green ddod â gwaharddiad llys yn eu rhwystro rhag ei enwi. Fodd bynnag, mae wedi bod o dan gwmwl ers i’r cyn-AS yr Arglwydd Hain ei enwi yn Nhŷ’r Arglwyddi ym mis Hydref.