Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cynyddu ei thâl aelodaeth, gan ddweud y bydd yn help i dalu am y £16,000 sy’n cael ei wario yn flynyddol gan y corff ar waith cadwraeth.

Yn ôl yr ymddiriedolaeth, fe fydd cynnydd o 50c y mis o Fawrth 1 yn creu cyfalaf gwerth £11m a fydd yn cael ei ddefnyddio er mwyn amddiffyn safleoedd treftadaeth a gwledig yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae llawer o brosiectau cadwraethol ar y gweill gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan gynnwys gwaith cynnal a chadw gwerth £5m yng ngerddi a phlasdy Ickworth yn Swydd Suffolk a’r bwriad i wario £4m ar wella’r cyfleusterau yn Sutton Hoo o fewn yr un sir.

Yn ôl ffigyrau gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, fe gafodd £138.4m ei wario ar gadwraeth yn ystod cyfnod 2017/18 – cyfartaledd o  £15,799 yr awr yn ystod y flwyddyn gyfan.

Prisiau newydd

Yn y pen draw, bydd disgwyl i bobol dros 26 oed dalu £3 y flwyddyn yn ychwanegol am aelodaeth, gyda theuluoedd cyfan wedyn yn gorfod talu £6 yn fwy. Mae hynny’n golygu y bydd teulu sydd â dau oedolyn yn talu £126 yn flwyddyn er mwyn bod yn aelodau.

Bydd y pris ar gyfer pobol dros 60 oed sydd wedi bod yn aelodau am y pum allan o’r deng mlynedd diwethaf yn gweld cynnydd o £2.52 yn y pris, a bydd aelodaeth ar y cyd ar gyfer pobol hŷn yn £4.80 yn fwy.

Bydd rhaid i bobol rhwng 18 a 25 oed dalu £1.50 y flwyddyn yn ychwanegol wedyn, tra bydd y pris ar gyfer aelodau iau (5-17) yn aros yn ei unfan ar £10.