Dim ond un ym mhob tri oedolyn yng ngwledydd Prydain sy’n credu ei bod hi’n bosib lleihau’r risg o ddatblygu dementia – dyna mae ymchwil newydd yn ei awgrymu.

Mae arolwg gan Ymchwil Alzheimer Prydain yn dangos bod diffyg ymwybyddiaeth lwyr ynglyn â’r ffactorau sy’n gallu cynyddu’r risg o’r afiechyd, a’r camau mae rhywun yn gallu cymryd i’w leihau.

Doedd 48% o bobol gafodd eu holi ddim yn gwybod un factor risg i ddementia.

Mae’r rhain yn cynnwys yfed trwm, geneteg, ysmygu, pwysau gwaed uchel, iselder a diabetes – ac mae’n wyddys bod ymarfer cord yn gallu helpu.

Roedd 2,361 o bobol wedi cael eu cyfweld gan Fonitor Agweddau Dementia ar ran Ymchwil Alzheimer Prydain.

Doedd 49% o bobol ddim yn deall bod dementia yn achos marwolaeth, tra’r oedd 22% yn anghywir wrth honni ei fod yn rhan anochel o heneiddio.

At hynny, roedd dau ym mhob pum person, sef 42%, yn enwi dementia fel y cyflwr maen nhw’n pryderu fwyaf mdano.

Mae dros 850,000 o bobol ar Ynysoedd Prydain yn byw gyda dementia ac mae disgwyl iddo godi dros filiwn erbyn 2025.