Fe brofodd 88% o gwmnïau gwledydd Prydain ymosodiadau seibr yn 2018 ar gyfartaledd o bedair gwaith yr un, yn ôl adroddiad newydd.

Mae llawer o sylw wedi bod i gwmnïau yn profi ymosodiadau o’r fath dros y flwyddyn ddiwethaf gyda Ticketmaster a banciau HSBC a TSB yn gorfod cymryd camau i amddiffyn eu hunain.

Ond yn ôl Adroddiad Bygythiad i Ynysoedd Prydain gan Carbon Black, mae bron iawn pob cwmni ym mhob sector nawr yn cael ei dargedu.

Mae’r adroddiad yn dangos bod y nifer o ymosodiadau wedi cynyddu i saith allan o wyth o gwmnïau Ynysoedd Prydain – 87% y llynedd.

Mae’n ymddangos hefyd bod ymosodiadau yn dod yn fwy soffistigedig yn ol 89% i benaethiaid technoleg gwybodaeth gafodd eu hymchwilio.

I wledydd eraill ar draws y byd, mae’r darlun yn debyg hefyd gyda gwledydd fel Yr Almaen, Ffrainc, Yr Eidal, Canada, Japan, Singapore ac Awstralia yn profi heriau tebyg.