Mae undeb y GMB yn dweud ei fod wedi dod i gytundeb “sy’n torri tir newydd” ar gyfer gweithwyr gyda chwmni dosbarthu parseli Hermes.

Yn ôl y GMB mae’r cytundeb yn cynnig hawliau newydd sbon i weithwyr hunan gyflogedig Hermes i dderbyn tâl gwyliau a chyflog sefydlog.

Daw’r cytundeb wedi blynyddoedd o ymgyrchu gan yr undeb i roi hawliau cyflogaeth i weithwyr hunan gyflogedig.

O dan y cytundeb newydd, gall gweithwyr dosbarthu parseli Hermes dderbyn buddion fel tâl gwyliau a chyflog sy’n cael ei drafod yn unigol yn ogystal â’r hyblygrwydd o fod yn hunangyflogedig.

“Rhoi llais i weithwyr”

 Dywedodd Tim Roache, ysgrifennydd cyffredinol Undeb y GMB: “Mae Hermes yn arwain y ffordd – mae edrych ar ôl y bobol sy’n gweithio dydd ar ôl dydd  nid yn unig yn dda i fusnes, ond y peth iawn i’w wneud.”

Ychwanegodd y byddai’r “cytundeb arloesol” yn rhoi “llais” i weithwyr dosbarthu parseli yn y gweithle

“Pob parch i Hermes….Dylai cyflogwyr eraill gymryd sylw, dyma sut mae ei gwneud hi.”

Dywedodd Martijn de Lange, prif weithredwr Hermes eu bod yn “falch i fod yn arwain y ffordd yn y datblygiad arloesol yma.”