Canol Belffast (Zoney CCA 3.0)
Fe allai bom a oedd wedi ei gosod yng nghanol Belffast fod wedi lladd neu anafu pobol, meddai’r heddlu.

Roedd rhaid i arbenigwyr bomiau drin y ffrwydryn a oedd wedi ei osod neithiwr mewn ardal sy’n llawn llefydd bwyta a siopau.

Fe fu’n rhaid i drigolion lleol symud oddi yno ac fe gafodd busnesau eu cau dros dro wrth i’r heddlu ddelio â’r argyfwng.

Dinistr

Heddiw, maen nhw wedi cadarnhau bod y bom yn un allai fod wedi ffrwydro ac y byddai wedi achosi dinistr sylweddol yn ardal Bradbury Place, sydd hefyd yn boblogaidd gyda myfyrwyr.

Mae’r digwyddiad wedi’i gondemnio gan Aelod Seneddol yr SDLP dros Dde Belffast – yn ôl Alasdair McDonnell, roedd hi’n ddigon drwg ar fusnesau oherwydd yr argyfwng economaidd heb anhwylustod ychwanegol.

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am y ffrwydryn hyd yn hyn ond mae gweriniaethwyr sy’n gwrthwynebu’r broses heddwch wedi bod yn gyfrifol am nifer o ymosodiadau yn ystod y blynyddoedd diwetha’.