Bydd cyfres o gyfarfodydd yn cael eu cynnal rhwng Llywodraeth Prydain ac aelodau o feinciau cefn y blaid Geidwadol yr wythnos hon, a hynny mewn ymgais i ddod i gytundeb ynghylch Brexit.

Bydd Brexitwyr caled o’r Grŵp Ymchwil Ewropeaidd (ERG) a chyn-weinidogion sydd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfio grŵp newydd a fydd yn cyfarfod yn “rheolaidd” gyda’r Ysgrifennydd Brexit, Steve Barclay, a swyddogion eraill, meddai Stryd Downing.

Ymhlith aelodau’r grŵp fydd dirprwy gadeirydd yr ERG, Steve Baker; cyn-Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Owen Paterson; y cyn-Weinidog Addysg, Nicky Morgan a’r cyn-weinidog, Damian Green.

Nod y cyfarfodydd fydd cyflwyno newidiadau i gytundeb Brexit Theresa May er mwyn osgoi gwrthwynebiad ym Mrwsel a San Steffan.

Mae disgwyl i’r ffin rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon fod yn brif destun trafod yn y gyfres o gyfarfodydd a fydd yn cychwyn yn Swyddfa’r Cabinet yn Whitehall heddiw (dydd Llun, Chwefror 4).