Mae Mary Lou McDonald, arweinydd Sinn Fein, yn cyfiawnhau polisi ei phlaid o atal eu pleidlais yn San Steffan drwy dynnu sylw at ymdriniaeth y sefydliad at blaid yr SNP yn yr Alban.

Dydy aelodau seneddol Sinn Fein ddim yn cymryd eu seddau, er eu bod nhw’n cael eu hannog i wneud hynny yn ystod trafodaethau ar Brexit.

Mae gan y blaid saith sedd i gyd ac mae hynny, meddai’r arweinydd, yn golygu eu bod yn aneffeithiol wrth ddylanwadu ar San Steffan.

“Does gen i ddim busnes yn San Steffan,” meddai wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.

“Mae San Steffan, yn gywir iawn, yn hybu ac yn amddiffyn yr hyn y mae’n ei storied yn bwysig i les Prydain.

“Does gennym ni ddim busnes ymyrryd yn hynny. Gwyddeles ydw i. Mae gennym ddwy senedd ac rydym yn hybu lles y Gwyddelod.

“Rwy’n edrych ar brofiadau ein cydweithwyr Albanaidd ac yn eu gweld nhw yn San Steffan. Dw i’n credu
bod tua 30 ohonyn nhw, a dw i’n credu y bydden nhw’n tystio nad oes gan San Steffan ddim diddordeb yn yr Alban chwaith.

“Dydy San Steffan erioed wedi gwasanaethu buddiannau Iwerddon, does dim cyfansoddiad ganddo i wneud hynny.

“Mae buddiannau Iwerddon yn cael eu hamddiffyn yn Nulyn ac yn Belffast.”

Iwerddon a Brexit

Mae Mary Lou McDonald, yn y cyfamser, yn dweud y byddai angen edrych eto ar Gytundeb Gwener y Groglith pe bai Brexit caled yn digwydd.

Mae hi’n galw am refferendwm yn Iwerddon o dan y fath amgylchiadau.

“Yn syml, os nad oes modd lliniaru ffin Iwerddon, ac os nad oes modd ei rheoli yn y tymor byr, yna rydych yn rhoi’r cwestiwn yn ddemocrataidd yn nwylo’r bobol ac yn eu galluogi nhw i ddileu’r ffin,” meddai.

“Cofiwch nad oedd pobol Gogledd Iwerddon wedi cymeradwyo Brexit.”

‘Ymddwyn yn ddiofal’

Mae unrhyw un sydd yn gamblo o safbwynt heddwch Iwerddon yn ymddwyn yn “ddiofal”, meddai.

“Un o symbolau mwyaf llwyddiant o safbwynt y broses heddwch yw fod pobol yn gallu symud yn ddi-drafferth dros y ffin.

“O ran unrhyw reoliadau neu wiriadau neu wiriadau diogelwch, unrhyw amheuaeth o ran milwyr Prydeinig ar y ffin, mae’r Taoiseach wedi bod yn glir na fydd unrhyw filwyr Gwyddelig ger y ffin – fydd neb yn derbyn caledu’r ffin ar ein hynys.

“Mae’r broses heddwch yn gadarn iawn, yn wydn iawn, dim ond symud ymlaen ydyn ni ac nid am yn ôl.

“Byddai’n ddiofal ac anghyfrifol iawn pe bai’r Torïaid yn chwarae gemau gyda’r cynnydd hwnnw.

“Mae heddwch ar yr ynys hon yn beth gwerthfawr. Rhag cywilydd unrhyw un sy’n barod i chwarae gemau gyda hynny.”