Gallai’r teulu brenhinol gael eu symud i leoliad diogel pe bai gwrthdystiadau ar strydoedd Llundain ar ôl Brexit, meddai’r wasg Brydeinig.

Cafodd y cynllun ei greu yn benodol ar gyfer y Rhyfel Oer, ond mae’r Sunday Times yn adrodd fod llefarydd ar ran y Swyddfa Gabinet yn dweud y gallen nhw gael eu hatgyfodi pe na bai ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn un esmwyth.

Ac Mae’r Mail on Sunday hefyd yn ategu’r stori.

Mae Jacob Rees-Mogg, yr aelod seneddol Ceidwadol, yn dweud bod y cynlluniau’n awgrymu “panig diangen”, gan fod nifer o’r teulu brenhinol wedi aros yn Llundain adeg bomio’r ddinas yn ystod yr Ail Ryfel Byd.