Mae fan yr heddlu wedi taro yn erbyn car yn Cheltenham sydd wedi’i amau o gael ei ddwyn gan dri o lanciau yn Cheltenham.
Fe fu’r heddlu’n cwrso’r Mini coch a gafodd ei ddwyn o ardal Tetbury toc cyn 2 o’r gloch fore heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 2).
Digwyddodd y gwrthdrawiad am oddeutu 3 o’r gloch.
Cafodd fan Citroen Berlingo ei difrodi.
Roedd dau blismon yn fan yr heddlu.
Chafodd yr un o’r plismyn na’r llanciau eu hanafu.
Cafodd y llanciau eu harestio ar amheuaeth o fwrgleriaeth ac o ddwyn cerbyd.
Mae ymchwiliad ar y gweill.