Mae Brendan Cox, gweddw Jo Cox, wedi cyhuddo Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur, o gefnogi unben.

Daw ei sylwadau wedi i Jeremy Corbyn feirniadu ymyrraeth allanol yn y wlad, sydd bellach o dan arweiniad Nicolas Maduro.

Mae’r wlad ar drothwy argyfwng economaidd a chymdeithasol yn dilyn penodi’r arlywydd newydd, ac mae hynny wedi arwain at argyfwng dyngarol.

“Mae dyfodol Feneswela wedi’i gymryd o ddwylo ei thrigolion gan wladwriaeth sy’n gynyddol lwgr a thotalitaraidd,” meddai Brendan Cox ar Twitter.

“Galwch am ddeialog ar bob cyfri, ond os nad ydych chi’n beirniadu tanseilio democratiaeth yn gryf, yna mae’n swnio fel pe baech chi’n amddiffyn unben.”

Sylwadau Jeremy Corbyn

Ddydd Gwener (Chwefror 1), roedd Jeremy Corbyn yn feirniadol o Jeremy Hunt, Ysgrifennydd Tramor San Steffan, gan ddweud ei fod e’n “anghywir” wrth fynnu sancsiynau yn erbyn llywodraeth Nicolas Maduro.

Mae Juan Guaido, arlywydd Cynulliad Cenedlaethol Feneswela, yn ceisio disodli’r arlywydd, ac mae’n cael ei gydnabod gan yr Undeb Ewropeaidd a’r Unol Daleithiau fel yr arlywydd ar draul Nicolas Maduro.

“Mater i drigolion Feneswela yw dyfodol Feneswela,” meddai Jeremy Corbyn ar Twitter. “Mae galwadau Jeremy Hunt am ragor o sancsiynau ar Feneswela yn anghywir.

“Rydym yn gwrthwynebu ymyrraeth allanol yn Feneswela, boed o’r Unol Daleithiau neu unrhyw le arall.

“Mae angen deialog a setliad wedi’i gytuno er mwyn goresgyn yr argyfwng.”