Dylai Trysorlys San Steffan dalu costau plismona Brexit, meddai’r SNP, wrth i’r Alban wynebu’r posibilrwydd o golli 400 o blismyn.

Dyna’r “sefyllfa waethaf” y gallai’r wlad ei wynebu, ym marn Iain Livingstone, prif gwnstabl Heddlu’r Alban, sydd wedi penderfynu bwrw ymlaen gyda’r cynllun i recriwtio 100 o blismyn ac wedi cefnu ar y cynllun i dorri 300, yn dilyn rhybudd y gallai Brexit achosi mwy o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus.

Mae’r SNP yn dweud y dylai’r Trysorlys dalu am fod yr Alban wedi pleidleisio o 62% i 38% o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

‘Realiti’r sefyllfa’

“Mae realiti sefyllfa Brexit ry’n ni’n ei hwynebu’n dechrau dod i’r amlwg – gyda phrif gwnstabl yr Alban yn glir yn ei asesiad proffesiynol o’r pwysau ychwanegol fydd ar ysgwyddau Heddlu’r Alban,” meddai Rona Mackay, dirprwy arweinydd Pwyllgor Cyfiawnder Senedd yr Alban.

“Mae’n bwysig ei fod e’n paratoi ar gyfer y sefyllfa waethaf oherwydd, yn anffodus, dyna’r dibyn y mae’r Torïaid yn ein tynnu ni’n nes tuag ato.

“Mae’r risg o annhrefn, oedi mewn porthladdoedd a meysydd awyr, a’r angen i blismyn yr Alban gael eu lleoli i helpu heddluoedd mewn llefydd eraill, yn ddeilliannau sy’n dod yn bosib yn sgil Brexit heb gytundeb.

“Ond nid llanast a gafodd ei greu gan yr Alban mo hwn. Fe bleidleision ni i aros, am sefydlogrwydd ac am ddiogelwch yn Ewrop ac mae’n sefyllfa sydd wedi ei chreu gan y Llywodraeth Dorïaidd yn erbyn ein hewyllys.

“Ar sail hynny, mae hi ond yn deg fod y Trysorlys yn talu’r bil am yr holl gostau cynllunio wrth gefn sydd gan Heddlu’r Alban.”

Ymateb Llywodraeth Prydain

“Rydym yn cydweithio’n agos â Llywodraeth yr Alban ar gynlluniau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a hyd yn hyn, rydym wedi rhoi £92m iddyn nhw i gefnogi’r paratoadau Brexit ar gyfer pob sefyllfa,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain.

“Mater i Lywodraeth yr Alban yw penderfynu a ddylid neilltuo swm o’r arian ychwanegol hwn ar gyfer Heddlu’r Alban.”