Mae angen i gwmnïau’r cyfryngau cymdeithasol wneud mwy i warchod pobol ifanc meddai Aelodau Seneddol.

Er mwyn sicrhau hynny, mae angen “dyletswydd gofal cyfreithiol” arnyn nhw a fyddai’n amddiffyn iechyd a lles defnyddwyr ifanc ar eu gwefannau.

Daw’r alwad gan Bwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tŷ’r Cyffredin yn dilyn eu hadroddiad Effaith y Cyfryngau Cymdeithasol a Defnyddio Sgrin ar Iechyd Pobl Ifanc’.

Dywed ynddo y dylai’r Llywodraeth ystyried deddfwriaeth i sicrhau bod cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn rhannu data a all helpu i adnabod a diogelu’r rhai sydd mewn perygl o effaith negyddol safleoedd o’r fath.

Mae’r ddeddfwriaeth bresennol arno yn rhy wan hefyd yn ôl yr adroddiad, ac nid yw’n sicrhau diogelwch defnyddwyr ifanc.

Mae’n rhybuddio bod pobol ifanc yn gwneud dioddef o niwed i’w patrymau cysgu a’r ffordd maen nhw’n gweld eu corff – ynghyd a bod yn destun i fwlio.

Mae’r gwleidyddion y galw ar y ddeddfwriaeth newydd i edrych yn fanwl ar blatfformau fel Facebook, Twitter, Youtube a Google.