Mae merch yn ei harddegau wedi cael ei hanafu’n ddifrifol ar ôl mynd yn sownd o dan fws ar ddiwedd gêm bêl-droed rhwng Newcastle United a Manchester City.

Fe ddigwyddodd y ddamwain y tu allan i stadiwm St James’s Park yn Newcastle tua 10.30yh nos Fawrth (Ionawr 29) pan oedd yr ardal dan ei sang wrth i gefnogwyr adael y maes.

Fe aeth y ferch 18 oed yn sownd o dan y bws deulawr, ac mae Heddlu Northumbria yn cadarnhau heddiw iddi ddiodde’ anafiadau i’w hasennau ac i’w hasgwrn cefn. Mae hi wedi’i chludo i’r ysbyty, lle mae hi mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.