George Osborne
Mae rhagor o wrthdaro’n debygol rhwng y Llywodraeth a’r undebau llafur.

Ar drothwy cynhadledd y Ceidwadwyr, mae’r Canghellor yn dweud y bydd gweithwyr yn colli peth o’u hawliau i gael iawndal am sacio annheg.

Ar hyn o bryd, mae gweithwyr yn gallu dod ag achos diswyddo annheg ar ôl blwyddyn o waith; bwriad y Llywodraeth yw codi hynny i ddwy flynedd.

Yn ôl undeb y GMB, mae’n dangos bod y Blaid Geidwadol ym “mhocedi” elît sy’n cymryd mantais ar bobol eraill.

Roedden nhw eisiau lleihau hawliau gweithwyr sy’n cael eu sacio ar gam, meddai llefarydd.

Ofn cyflogi, meddai Osborne

Fe fydd y newid yn cael ei gyhoeddi yn ystod y gynhadledd ym Manceinion yr wythnos nesa’ ond fe gafodd ei ddatgelu gan George Osborne heddiw ym mhapur y Sun.

Roedd ofn cael eu dwyn o flaen tribiwnlys diwydiannol yn atal busnesau rhag cyflogi gweithwyr newydd, meddai.

Roedd 236,000 o achosion diswyddo annheg y llynedd, a’r rheiny’n costio cyfartaledd o bron £13,000 i’r cyflogwyr mewn iawndal a chostau.