Mae archfarchnadoedd blaenllaw yn rhybuddio y byddai Brexit heb gytundeb yn arwain at gynnydd mewn prisiau bwyd ac yn peri risg “sylweddol” i’r amrywiaeth ac ansawdd cynnyrch ar silffoedd ein siopau.

Mewn llythyr at Aelodau Seneddol, maen nhw’n rhybuddio y byddai costau mewnforio yn cynyddu “yn sylweddol” pe bai gwledydd Prydain yn gorfod dilyn rheolau Sefydliad Masnach y Byd.

Byddai hefyd yn achosi oedi posib mewn porthladdoedd gan leihau’r amrywiaeth o gynhyrchion fyddai ar gael yn ein siopau.

Mae’r rhai sydd wedi llofnodi’r llythyr yn cynnwys siopau Sainsbury’s, Asda, Marks & Spencer, Co-op, Waitrose, Costcutter, KFC, McDonald’s a Pret a Manger.

Yn ôl y cwmnïau mae’r Deyrnas Unedig yn dibynnu ar Ewrop am bron i draean o’i bwyd, a byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn drychinebus i’r diwydiant.

Daw’r newyddion wrth i Aelodau Seneddol baratoi at bleidlais yfory (Dydd Mawrth, Ionawr 29) dros nifer o welliannau i gynllun Brexit y Prif Weinidog, Theresa May – sy’n cynnwys un fyddai’n rhwystro gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Dywedodd Downing Street fod y Prif Weinidog wedi ymrwymo i adael yr Undeb ar Fawrth 29 eleni a bydd yn mynd â’i chynllun yn ôl i Dŷ’r Cyffredin am ail “bleidlais ystyrlon” cyn gynted ag y gallai ar ôl y ddadl yfory.