Mae Theresa May o dan bwysau i sicrhau consesiynau newydd i atal ffin galed yng Ngogledd Iwerddon ond mae Dulyn wedi rhybuddio na fydd unrhyw newidiadau i’r cytundeb.

Mae’r Prif Weinidog yn paratoi i annerch y Senedd eto yfory (dydd Mawrth, Ionawr 29) ynglŷn â’i chynllun Brexit.

Yn y cyfamser, mae Boris Johnson wedi dweud ei fod wedi clywed gan “ffynonellau” bod Theresa May yn bwriadu teithio i Frwsel i geisio ail-drafod y “backstop”.

Ond mae Dirprwy Brif Weinidog Iwerddon,  Simon Coveney, wedi mynnu na fydd unrhyw newidiadau i’r Cytundeb Ymadael sy’n nodi y bydd y Deyrnas Unedig yn dilyn rheolau tollau’r Undeb Ewropeaidd os nad oes cytundeb arall yn cael ei wneud yn y cyfnod cyn gadael.

Yn ôl Simon Coveney mae’r “backstop” yn hanfodol i osgoi ffin galed.

Daw ei sylwadau wrth i’r Ceidwadwr blaenllaw Syr Graham Brady gyflwyno gwelliant sy’n galw am gael gwared a’r “backstop” a rhoi “trefniadau eraill” yn eu lle.

Mae Syr Graham Brady, cadeirydd Pwyllgor 1922, wedi dweud wrth raglen Today ar BBC Radio 4 y byddai’r gwelliant yn rhoi “llawer mwy o rym” i’r Prif Weinidog ym Mrwsel.